Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(137)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi – Adroddiad Blynyddol 2013 (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch (45 munud)

</AI4>

<AI5>

5 Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 (15 munud) 

NDM5261 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2013.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013
Memorandwm Esboniadol – (Saesneg yn unig)

</AI5>

<AI6>

6 Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 (15 munud) 

NDM5131 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn  gwneud Gorchymyn y Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2013.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn y Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013(Saesneg yn unig)
Memorandwm Esboniadol(Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
 

</AI6>

<AI7>

7 Dadl: Y frech goch a phwysigrwydd rhaglenni brechu (60 munud) 

NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch; a

2. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny:

Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn dysgu gwersi yn sgîl yr achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o achosion yn y dyfodol.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<AI9>

8 Dadl Fer- gohiriwyd o 8 Mai 2013 (30 munud) 

NDM5234 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn:

Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 12 Mehefin 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>